Difrodi dros hanner cant o geir
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn Sir Y Fflint yn chwilio am dri o lanciau wnaeth ddifrodi 53 o geir mewn safle arwerthwyr ar Lannau Dyfrdwy.
Fe welwyd y tri yn malu gwydrau ceir oedd wedi parcio yn Wilson Car Auction, Queensferry.
Cafodd fan hefyd ei rhoi ar dân yn ystod y digwyddiad tua 7.50pm nos Sul.
Dywedodd y Sarjant Chris Griffiths fod y tri wedi achosi cryn ddifrod a bod y gost yn sylweddol.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol