Pafiliwn Corwen: Gohirio achos
- Cyhoeddwyd

Fe fydd penderfyniad terfynol mewn achos llys ym mis Rhagfyr
Mae barnwr wedi penderfynu gohirio achos Pafiliwn Corwen cyn penderfynu'n derfynol ym mis Rhagfyr.
Ddydd Mercher roedd trafodaeth a ddylai gwaharddeb i atal dymchwel Pafiliwn Corwen fod mewn grym neu beidio.
Roedd y gwrandawiad yn Llys Sirol yr Wyddgrug.
Cafodd gwrandawiad cyfreithiol yn ymwneud â Chyngor Sir Ddinbych a chyfreithwyr grŵp cymunedol ei ohirio ddydd Mawrth.
Ym mis Ebrill llwyddodd ymgyrchwyr wrth gael gwaharddeb i atal cynlluniau'r cyngor i ddymchwel y pafiliwn gafodd ei adeiladu ym 1911.
Ymgyrchwyr
Y Barnwr Nicholas Chambers QC benderfynodd ohirio'r achos ddydd Mercher.
Mae'r cyngor sir yn awyddus i ddymchwel yr hen adeilad ond mae ymgyrchwyr wedi dadlau bod modd achub yr adeilad.
Fe gaeodd y pafiliwn yn ddirybudd ym mis Mawrth 2010 oherwydd pryderon am asbestos a namau trydanol.
Dywedodd ymgyrchwyr fod modd gwneud yr adeilad yn ddiogel am ryw £60,000.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych o'r farn fod angen gwario rhwng hyd at £3m ar godi adeilad newydd.