Carchar am ddioddefaint diangen
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn 45 oed 23 wythnos o garchar a'i atal rhag cadw anifeiliaid am oes ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o achosi dioddefaint diangen i ddau gi.
Clywodd Ynadon Pontypridd fod Jason Christopher Tiller, 45 oed, eisoes yn y carchar oherwydd troseddau eraill.
Roedd Simon Evans, arolygydd yr RSPCA, wedi ymweld â'i gartref yn Nhreorci ar Ragfyr 22, 2010.
Dywedodd iddo ddod o hyd i ddaeargi Sir Stafford oedd yn gloff o dan y gwely.
Roedd y ci yn methu dal ei bwysau wrth sefyll.
Gwaed
Yn yr ardd daeth yr arolygwr o hyd i gorff ci mewn troli siopa.
Dywedodd y diffynnydd ei fod wedi defnyddio'r troli i losgi cŵn marw neu gwn oedd wedi eu hanafu.
Ychwanegodd yr arolygwr iddo ddarganfod casgen blastig oedd yn llawn gwaed.
Roedd corff ci arall yn y gasgen.
Cyfaddefodd y diffynnydd iddo daro'r ci ar ei ben sawl gwaith gyda pholyn.
Honnodd fod y ci wedi ymosod arno.
Yn ôl yr amddiffyniad, roedd y diffynnydd yn dioddef o salwch meddwl ar y pryd.