Dynladdiad: Carcharu dyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd Kirkham hefyd ei garcharu am chwe mis arall am gyflenwi ecstasi
Mae dyn 20 oed o Bowys wedi'i garcharu am dair blynedd am ddynladdiad ei ffrind.
Roedd Blaine Kirkham o'r Drenewydd wedi cael ei gyhuddo'n wreiddiol o lofruddio Lewis Clarke, 19 oed o'r Drenewydd.
Cafodd Kirkham hefyd ei garcharu am chwe mis arall am gyfaddef i dri throsedd o gyflenwi ecstasi.
Bu farw Mr Clarke yn yr ysbyty wedi iddo gael ei daro yn Nhŷ Pumlumon yn Llanidloes ar Orffennaf 2 eleni.
Chwarae cast
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Amwythig ond bu farw'n ddiweddarach.
Roedd e fod ymuno â'r Llynges Frenhinol ym mis Tachwedd.

Roedd Lewis Clarke fod ymuno â'r Llynges Frenhinol ym mis Tachwedd.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Mr Clarke wedi marw wedi i bibell waed rwygo ar ôl iddo gael ei daro i ochr chwith ei wyneb.
Roedd Kirkham wedi chwarae cast ar Mr Clarke gan eillio un o'i aeliau a thorri un o'i sanau pan oedd e'n cysgu.
Clywodd y llys fod Mr Clarke wedi'i gynhyrfu gan ymddygiad Kirkham cyn dweud wrtho: " Man a man i ti fy mwrw i".
Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes, QC: "Dydych chi ddim yn derbyn cyfrifoldeb llawn am eich ymddygiad o hyd ac fe fydd rhaid ichi feddwl am hyn yn ystod eich amser yn y carchar."
Yn dilyn yr achos llys dywedodd datganiad gan deulu Mr Clarke: "Rydyn ni yma heddiw oherwydd eiliad o hurtrwydd am fod rhywun heb stopio i feddwl am ganlyniadau ei weithredoedd.
"Mae ein bywydau wedi eu difrodi gan farwolaeth ddiangen Lewis.
"Roedd e'n ddyn ifanc talentog a mab rhyfeddol, roedd e'n frawd ffyddlon i Josie a ffrind da i lawer o bobl.
"Rydyn ni'n ei golli bob dydd ac mae ein galar yn llethol ar brydiau.
"Ni fyddwn ni fyth yn dygymod â'r golled hon."
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Shane Williams o Heddlu Dyfed-Powys fod teulu Mr Clarke wedi dangos "urddas hynod a gwydnwch meddwl".