Diwrnod cyntaf y Cwpan LV=
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n ddiwrnod sobor i rygbi Cymru o safbwynt y rhanbarthau yn ogystal â'r tîm cenedlaethol.
Roedd y pedwar rhanbarth yn cystadlu yn Nghwpan LV= - yr hen gwpan Eingl Gymreig - a dim ond y Scarlets gafodd fuddugoliaeth.
Dreigiau Gwent oedd y tîm cyntaf i herio'r gwrthwynebwyr o Loegr, ac fe gawson nhw wers gan yr ymwelwyr o Gaerfaddon.
Sgoriodd yr ymwelwyr saith cais i un y Dreigiau, ac roedden nhw'n fuddugol o 46-16.
Yna gyda'r nos fe ddaeth dau o'r tri arall o flaen eu gwell.
Roedd y Gweilch ar daith i Gaerwysg ond dim ond o giciau cosb y llwyddodd y Gweilch i sgorio gan golli o 35-9.
Un gic gosb yn unig gafodd y Gleision oddi cartref yn Newcastle. Llwyddodd y tîm cartref i sgorio pum cais wrth ennill o 33-3.
Ond llwyddodd y Scarlets wella rhywfaint ar ddiwrnod rygbi Cymru.
Caerlŷr oedd yr ymwelwyr ar Barc y Scarlets, ac roedd yna fuddugoliaeth ysgubol i'r Cymry o 31-3.
Canlyniadau :-
Dreigiau 16-46 Caerfaddon
Scarlets 31-3 Caerlŷr
Newcastle 33-3 Gleision
Caerwysg 35-9 Gweilch