Dyn wedi marw wedi damwain ym Meifiod
- Cyhoeddwyd

Bu farw dyn 28 oed mewn damwain ffordd ym Mhowys.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A495 y tu allan i bentref Meifod rhwng 9pm a 9.30pm nos Sul.
Un cerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.
Aed â dyn arall i'r ysbyty a dydi ei anafiadau ddim yn rhai angheuol.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw yn y Swyddfa yn Y Drenewydd ar 101.
Mae'r Crwner wedi ei hysbysu o'r farwolaeth.