Dau yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i Mr Sarkozi nos Fawrth ym mhentref Gallt Melyd
Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn mewn pentref yn Sir Ddinbych.
Bu farw Gabor Peter Sarkozi, 38 oed, ym mhentref Gallt Melyd ar ôl ymosodiad nos Fawrth, Hydref 18.
Mewn gwrandawiad a barodd am bum munud, fe wnaeth Gary Bland, 41 oed o Bryn Avenue, Y Rhyl, a James Siree, 21 oed o Vale Road, Y Rhyl, gadarnhau eu henwau i'r llys.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa tan iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.
Bu farw Mr Sarkozi - oedd yn hanu o Hwngari yn wreiddiol ond yn byw yn Y Rhyl - oherwydd anafiadau difrifol i'w ben a gafodd yn ystod ymosodiad arno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol