Plismyn 'wedi dilyn canllawiau'
- Cyhoeddwyd

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref y llynedd
Mae ditectif profiadol wedi mynnu fod heddweision wedi dilyn canllawiau cywir wrth gadw tystiolaeth fforensig yn dilyn llofruddiaeth bachgen ysgol.
Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth gan ddau ddyn yn gwisgo mygydau oedd wedi mynd i'r tŷ anghywir, clywodd Llys y Goron Caerdydd.
Mae Ben Hope, 38, a Jason Richards, 37, yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth ar Ebrill 11 y llynedd, ac mae'r ddau yn gwadu'r cyhuddiad.
Clywodd y llys fod Hope a Richards wedi derbyn £1,000 yr un i ladd dyn o'r enw Mohamed Tanhai oedd yn byw mewn tŷ tebyg i gartre'r teulu Siddiqi.
Honnir i ddyn o'r enw Mohamed Ali Ege orchymyn lladd Mr Tanhai oherwydd dyled o £50,000.
Rhuban
Yn ei dystiolaeth yn y llys ddydd Iau, dywedodd Ditectif Sarjant Stuart Wales o Heddlu'r De fod rhuban heddlu wedi ei osod ar draws y drws i'r cartref o'r funud y cyrhaeddodd plismyn y safle.
Dywedodd Mr Wales mai'r rheswm am ei osod yno yn hytrach nag ar draws y gât i'r tŷ oedd mai'r flaenoriaeth i ddechrau oedd ceisio achub bywyd Aamir Siddiqi.
Ychwanegodd nad oedd am weld rhuban ar draws y gât rhag ofn y byddai'n llesteirio gwaith y parafeddygon oedd yn cludo Aamir at yr ambiwlans.
Pwysleisiodd fod pawb aeth i mewn ac allan o'r tŷ wedi cael eu henwau wedi cofnodi gan blismon oedd yn gwarchod y drws.
Roedd hyn er mwyn medru diystyru'r bobl hynny o ymchwiliad yr heddlu yn ddiweddarach.
Wedi i Aamir gael eu gludo o'r tŷ, fe symudwyd y rhuban i gât yr eiddo, ac fe gafodd y ffordd y tu allan a nifer o lonydd bach gerllaw eu cau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011
