Profiad dirdynol un cyn-ddefnyddiwr heroin
Mae ymgyrch diweddara'r heddlu i geisio cael gwared â heroin oddi ar strydoedd dinas Abertawe yn costio £500,000.
Wrth i ddefnyddwyr gael eu hannog i gael triniaeth am eu dibyniaeth ar gyffuriau mae 'na rybudd gan un plisman nad ydi'r adnoddau ar gael i wneud y gwaith.
Mae un cyn-ddefnyddiwr heroin sydd wedi bod yn siarad â Post Cyntaf hefyd yn cytuno.
Ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau am nifer o flynyddoedd mae Aled Williams bellach yn ôl adref ar Ynys Môn yn gofalu am ei dad.
Bu'n dweud ei stori ddirdynnol wrth Aled Hughes.