Ymgyrch Bang i fod yn ofalus gyda thân gwyllt
- Cyhoeddwyd

Mae 'na annogaeth i pawb fynychu nosweithiau tân gwyllt cyhoeddus yn unig
Ar Dachwedd 5, diwrnod traddodiadol tân gwyllt mae ymgyrch 'Bang' yn ceisio codi ymwybyddiaeth a gofyn i bobl fihafio a lleihau'r niferoedd o ddigwyddiadau gwrthgymdeithasol.
Mae'r ymgyrch hefyd yn hybu ymweld â digwyddiadau tân gwyllt a choelcerthi yn ddiogel.
Ymgyrch diogelwch cymunedol Cymru gyfan yw hon.
Mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn gyfnod prysur iawn i heddluoedd a'r gwasanaethau brys yng Nghymru.
Yn ystod cyfnod Calan Gaea' a Thân Gwyllt y llynedd, mi fu'n rhaid i blismyn ymateb i dros 500 o achosion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pawb i fynd i nosweithiau tân gwyllt cyhoeddus yn unig.
Yn ôl y gwasanaeth mae pobl wedi cael eu hyfforddi i wneud popeth yn ddiogel mewn digwyddiadau o'r fath.
Ac maen nhw'n cynghori unrhyw un sydd am ddefnyddio tân gwyllt adre' i gydymffurfio gyda'r safonau a dilyn cyfarwyddiadau i fod yn ddiogel.
"Mae diogelwch ar yr adeg yma o'r flwyddyn yn gyfrifoldeb i bob un ohonon ni," meddai'r Uwch Swyddog Diogelwch Tân, Gareth Griffiths.
"Allwn ni ddim pwysleisio digon y ffordd orau o leihau nifer yr anafiadau yn ystod y dathliadau yw mynychu digwyddiadau swyddogol.
"Dyma'r ffordd fwya' diogel o arddangos yr adnoddau a'r gwerth am arian gorau.
"Rhaid cofio bod nosweithiau tân gwyllt yn cynyddu'r pryder ymhlith yr henoed a pherchnogion anifeiliaid ac felly mae mynychu digwyddiad cymunedol yn lleihau'r pryder.
"Os ydach chi'n defnyddio tân gwyllt eich hun, rhaid dilyn y rheolau."