Heddlu'n dod o hyd i glaf ar goll
- Cyhoeddwyd

Roedd yr heddlu wedi dweud na ddylai'r cyhoedd fynd yn agos ato
Mae'r heddlu wedi dod o hyd i glaf aeth ar goll o uned iechyd meddwl.
Diflannodd Neil Martin Anthony, 40 oed, o Ysbyty Glanrhyd, Pen-y-bont, ddydd Sadwrn.
Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Roedd yr heddlu wedi dweud na ddylai'r cyhoedd fynd yn agos ato.