Gwragedd: 'Yr hunlle wrth aros'
- Cyhoeddwyd

£75,000: Y cyfraniad mwya hyd yn hyn
Mae gwragedd dau löwr fu farw ym mhwll y Gleision wedi sôn am brofiad dirdynnol aros am wybodaeth ddiwrnod y ddamwain.
Ym mis Medi yn y pwll ger Pontardawe fe gafodd Phillip Hill, 45 oed, Garry Jenkins, 39 oed, David Powell, 50 oed, a Charles Breslin, 62 oed, eu lladd.
Roedd Mavis Breslin a Lynette Powell yng Nghwrs Rasio Ffos Las yng Nghwm Gwendraeth ddydd Llun wrth dderbyn siec o £75,000.
Hwn yw'r cyfraniad mwya at y gronfa a chlywodd y ddwy fod yr arian wedi ei godi o fewn dau ddiwrnod ynghynt yn y mis.
Dywedodd Mrs Breslin fod y swm a godwyd yn y cwrs rasio'n "anhygoel".
"Mae'n ddigon i godi calon rhywun."
'Ddim yn sylweddoli'
Dywedodd Lynette Powell: "Ar ôl profedigaeth fel hyn chi ddim yn sylweddoli'n llwyr ba mor garedig mae pobol wedi bod.
"A dweud y gwir, mae pawb wedi bod yn wych.
"Achos y drychineb chi ddim yn meddwl am y dyfodol."
Dywedodd nad oedd wedi cael amser i alaru eto am fod y gefnogaeth wedi bod yn "ffantastig".
"Mae'n amhosib dod i delere â hyn i gyd."
Dywedodd chwaer Garry Jenkins, Leanne Walters: "Mae'n agoriad llygad, beth y'n ni wedi 'i dderbyn ... ry'n ni wedi ca'l blode o lefydd gwahanol, Seland Newydd, Chile."
£600,000
Fe dderbyniwyd yr arian ar gyfer Cronfa Apêl Glowyr Cwm Tawe.
Mae'r gronfa, gafodd ei sefydlu ychydig o ddyddiau wedi'r drychineb, wedi derbyn cyfraniadau o bedwar ban y byd.
Erbyn dydd Gwener y cyfanswm oedd £600,000.
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Cwrs Rasio, Tim Long: "Mae ein cyfraniad ni'n hwb anferth i'r gronfa ac rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi codi cymaint o arian.
"Yn sicr, mae'r bobol ddaeth i'r cwrs rasio wedi bod yn garedig iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011

- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011
