Coventry 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Coventry 1-1 Caerdydd
Cododd Caerdydd i'r trydydd safle yn y Bencampwriaeth ar ôl gem gyfartal 1-1 yn Coventry.
Peter Whittingham, oedd unwaith ar lyfrau Coventry, roddodd yr ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi ar ôl 48 munud.
Ond brwydrodd Coventry, sydd ddau o waelod yr adran, yn galed gyda gôl gan Lukas Jutkiewicz ar ôl 61 munud.
Mae Caerdydd yn codi uwchben Middlesbrough ar wahaniaeth goliau.
Caerdydd: Marshall, McNaughton (Blake 87), Taylor, Gerrard, Turner, Kiss (McPhail 68),Whittingham, Cowie, Conway, Gunnarsson, Miller
Tabl y Bencampwriaeth
Dydd Mercher Tachwedd 22 2011