Caerdydd 1-0 Nottingham Forest
- Cyhoeddwyd

Arhosodd Caerdydd yn y trydydd safle yn y Bencampwriaeth ar ôl curo Nittingham Forest mewn gêm galed yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Yr eilydd Joe Mason gafodd unig gol y gêm ugain munud cyn y chwiban olaf.
Wedi'r gol, fe geisiodd yr ymwelwyr wneud mwy o ymosod, ond er gwaethaf am ambell gynnig, doedd dim modd curo Marshall rhwng y pyst.
Gan i Middlesbrough gael gêm gyfartal oddi cartref yn Peterborough, mae'r Adar Gleision bellach ddau bwynt yn glir yn y trydydd safle.
Collodd Southampton hefyd ddydd Sadwrn i'w gwneud yn ddiwrnod i'w chofio i gefnogwyr Caerdydd.
Caerdydd 1-0 Nottingham Forest
Tabl y Bencampwriaeth
Dydd Sadwrn Tachwedd 25, 2011