Casnewydd 1-0 Lincoln
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 1-0 Lincoln
Mae Casnewydd wedi symud yn uwch na Lincoln yn Uwchgynhair Blue Square Bet.
Ismail Yakubu roddodd y tîm cartref ar y blaen gydag ergyd agos yn dilyn croesiad Sam Foley.
Roedd yn rhaid i Danny Potter fod ar ei orau yn y gôl yn yr ail hanner wrth i Lincoln ymdrechu am gôl gyfartal.
Llwyddodd i arbed ergydion gan Jake Sheridan a Luke Medley er mwyn sicrhau'r tri phwynt.
Mae Casnewydd yn symud i'r 18fed safle.
Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet
Ar ôl gemau dydd Sadwrn, Rhagfyr 3