Deiseb i geisio achub canolfan ddydd
- Cyhoeddwyd

Protestwyr yn gwrthwynebu cau canolfan ddydd
Mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno deiseb ag arni fwy na 4000 o enwau yn erbyn cau canolfan ddydd yn Aberystwyth.
Hefyd roedd aelodau'r grŵp gweithredu yn cwrdd ag arweinydd Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth.
Maen nhw'n gwrthwynebu cynllun i ddymchwel y ganolfan er mwyn codi archfarchnad Tesco ar y safle.
Fe gafodd y ddeiseb ei chyflwyno i Gyngor Ceredigion yn ei bencadlys yn Aberaeron am 9.45am.
Dechreuodd y brotest dair wythnos yn ôl yn y ganolfan a dywedodd y trefnwyr y byddai'r ymgyrch yn parhau nes y bydden nhw'n llwyddo.
Ddydd Sadwrn cynhaliwyd gwylnos y tu allan i'r ganolfan ddydd.
Bygythiad
Mae datblygiad Tesco arfaethedig yn golygu fod dyfodol y ganolfan, a 12 o dai teras gerllaw, o dan fygythiad.
Agorwyd y ganolfan 30 mlynedd yn ôl.
Bwriad Cyngor Ceredigion yw symud y pensiynwyr o'r ganolfan i lawr isaf neuadd y dref sy'n cael ei hadnewyddu.
Ond dywedodd Grŵp Achub Canolfan Ddydd Park Avenue fod y lle yn rhy fach ac nad oedd y ramp i bobl anabl y tu allan yn addas.
Dywedodd cadeirydd y grŵp, Gerald Morgan: "Mae'r ganolfan yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr i'r gymuned trwy roi seibiant i ofalwyr, a hoe fach i bobl hŷn.
"Ein bwriad yw cynnal gwylnos bob dydd Sadwrn tan i'r cyngor sir newid ei feddwl".
Dywedodd y cyngor fod trefniadau wedi eu gwneud i gynrychiolwyr grŵp gweithredu gyfarfod ag arweinydd yr awdurdod - y Cynghorydd Keith Evans - ddydd Mawrth wrth iddo dderbyn y ddeiseb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2011
