Adar prin: Nifer fwyaf wedi'u cofnodi
- Cyhoeddwyd
-1.jpg)
Roedd y Telor Marmora ger Y Fenni
Cafodd y nifer fwyaf erioed o adar prin eu gweld yng Nghymru'r llynedd, gan gynnwys dwy rywogaeth na welwyd o'r blaen, yn ôl arolwg newydd.
Cafodd 136 o adar prin neu anghyffredin eu cofnodi yn 2010 gan Banel Cofnodi Cymru sy'n rhan o Gymdeithas Adareg Cymru.
Y nifer fwyaf a gafodd eu cofnodi cyn y llynedd oedd 109 yn 2008.
Ymysg yr adar prin dreuliodd amser yng Nghymru oedd y Siff-saff Iberia sydd fel arfer yn Sbaen a Phortiwgal ond a dreuliodd bum wythnos yng Nghoedwig Wentwood ger Cas-gwent ym mis Mai.
'Mwy o adar dŵr'
Ym mis Mehefin fe welwyd Telor Marmora o goetir Môr y Canoldir ar Fynydd y Blorenge ger Y Fenni.
Dywedodd ysgrifennydd y panel, Jon Green: "Rydyn ni'n gweld mwy o adar dŵr o'r cyfandir yn dod i Gymru."
Ymysg rhai o'r adar prin eraill aeth i Gymru yn 2010 oedd y Bobolinc a deithiodd o Ogledd America i Ynys Sgomer a Morgannwg yn ystod yr hydref.
Roedd y Llwyd Gyddfwyn ar Ynys Enlli yng Ngwynedd ac roedd y Gynffonlas Ystlysgoch ar ynys Sgomer yn Sir Benfro.
Llwyddodd y Titw Barfog i fridio yn y gogledd a'r de'r llynedd a bellach dydyn nhw ddim ar y rhestr adar prin.