Gleision yn penodi Richard Holland yn Brif Weithredwr
- Cyhoeddwyd

Bu Robert Norster yn Brif Weithredwr y Rhanbarth ers ei sefydlu yn 2003
Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi mai Richard Holland fydd yn olynu Robert Norster fel Prif Weithredwr y Rhanbarth.
Yn 38 mlwydd oed, mae gan Mr Holland brofiad o weithio yn Celtic Manor, ac yn fwy diweddar bu'n gyfarwyddwr gweithredol ar gyrsiau rasio ceffylau Casgwent a Henffordd.
Bydd e'n dechrau ar ei swydd fis nesa'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol