Cyngor sir yn gwrthod cynigion drafft
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor sir wedi gwrthod cynigion drafft i gwtogi nifer y cynghorwyr a chyflwyno wardiau aml-aelod.
Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn sydd wedi cytuno i wrthwynebu'r cynigion draft.
Condemniodd aelodau'r diffyg ymgynghori ar gynigion allai olygu "newidiadau daearyddol a diwylliannol sylweddol" i etholwyr.
Clywodd y cyfarfod y byddai'r newid yn arwain at wardiau rhy fawr fyddai'n annemocrataidd wrth gyfyngu ar yr ystod o ymgeiswyr, yn ddiffygiol o ran atebolrwydd lleol, yn anghydnaws oherwydd cyfuniadau o gymunedau gwledig a trefol.
Roedd 'na gefnogaeth drawsbleidiol unfrydol i saith argymhelliad y Cynghorydd Keith Evans.
Ac roedd y rhain yn cynnwys cais i'r Prif Weithredwr dros dro a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol geisio cyngor a chymryd camau rhesymol i herio priodoldeb cynigion y Comisiwn Ffiniau a rôl y Gweinidog Llywodraeth Leol.
'Rhuthro'
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Bryan Owen: "Tydi'r awdurdod ddim yn erbyn edrych ar y ffiniau, ond rydym yn teimlo fod y broses yma'n cael ei rhuthro ac nad ydym yn derbyn yr un driniaeth ag awdurdodau eraill yng Nghymru.
"Cafwyd prin ddim ymgynghori ar y cynigion drafft gyda chynghorau tref a chymunedau - ac yn bwysicach byth ychydig iawn hefo pobl Ynys Môn."
Dywedodd y Cynghorydd Evans: "Mae cynigion y Comisiwn Ffiniau yn wir yn annemocrataidd ac yn annerbyniol i aelodau'r cyngor a nifer o'r etholwyr yr ydym wedi siarad â nhw.
"Mae'r ymgynghori gyda phobl Môn wedi bod yn hollol annigonol a byddai derbyn y cynigion yma yn ymyleiddio ymgeiswyr etholiad Annibynnol ..."
Rhoddodd cynghorwyr ymrwymiad i gysylltu gyda'r Comisiwn Ffiniau er mwyn gweithio tuag at gydraddoldeb wardiau, o ran un aelod i 1,400 o etholwyr a gostyngiad rhesymol yn y nifer o aelodau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2011

- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2011
