Cwmni'n mynd i ddwylo gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni D2 Jeans sy'n berchen ar dair siop yng Nghymru wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr wrth i 200 o staff golli eu gwaith.
Mae'r cwmni yn berchen ar siopau yn Llanelli, Merthyr Tudful a Hwlffordd yn ogystal â siopau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Eisoes mae gweinyddwyr y cwmni wedi cau 19 siop ac wedi diswyddo holl staff y siopau hynny.
Mae 28 siop arall y cwmni ar agor o hyd wrth i weinyddwyr geisio dod o hyd i brynwr ar gyfer y cwmni y mae ei bencadlys yn Ayr yn yr Alban.
Dywedodd James Stephen ar ran y gweinyddwyr, BDO LLP, fod "hinsawdd masnachu anodd iawn" wedi effeithio ar y busnes.
Ail dro
"Er hynny, rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni werthu rhan o'r busnes neu werthu'r busnes yn llwyr.
"Yn y cyfamser, fe fydd y busnes yn dal i fasnachu."
Hwn yw'r ail dro mewn dwy flynedd i'r cwmni fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Y tro diwethaf prynodd y rheolwyr fwy na 40 o siopau o'r gweinyddwyr.
Dywedodd y gweinyddwyr na allen nhw ddweud pa siopau oedd wedi eu cau.