Conwy: Canfod corff ar greigiau
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn wedi cael ei ganfod ar greigiau yn Llandudno yn dilyn chwiliad eang dros nos.
Dechreuodd Gwylwyr y Glannau chwilio am ddyn oedd ar goll yn y môr ger Conwy am 10pm nos Sadwrn Rhagfyr 31.
Bu badau achub o Gonwy a Llandudno a hofrenydd yr heddlu wedi yn chwilio am y dyn oedd wedi bod yn hwylio mewn cwch 20 troedfedd o hyd.
Nos Sadwrn derbynodd Gwylwyr y Glannau alwad ffôn symudol gan y dyn yn adrodd ei fod ar goll.
Cafodd y corff ei ganfod ar greigiau ar draeth Gorllewin Llandudno toc wedi 9am.
Fe ddaeth y gwasanaethau o hyd i'r cwch rhyw filltir i'r gogledd o Gonwy gan Wylwyr y Glannau Caergybi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2012