Cadw dynes yn y ddalfa am geisio llofruddio ei gŵr
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle toc cyn 1.30am ddydd Sul
Cafodd dynes 49 oed wybod y bydd yn parhau yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen llys y goron ar gyhuddiad o geisio llofruddio ei gŵr.
Fe fydd Wendy Burns o Heol y Bryn, Y Fflint, yn ymddangos o flaen y llys eto ar Fawrth 9.
Mae hi wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio Derek Burns, 62 oed.
Honnir iddi ei drywanu yn eu cartref yn y dref ar Ionawr 8.
Doedd 'na ddim ple gan ei bargyfreithiwr, Jonathan Duffy, yn y gwrandawiad cychwynnol o flaen y Barnwr Merfyn Hughes QC yn Llys y Goron Caernarfon.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol