Ymchwiliad i gynllun iaith Cyngor Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd

Cafodd Cyngor Merthyr Tudful ei gyhuddo o fynd yn groes i'w bolisi iaith yn gyson
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu cynnal ymchwiliad statudol i'r modd y mae Cyngor Merthyr Tudful yn gweithredu ei bolisi iaith Gymraeg.
Ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2011 fe dderbyniodd y bwrdd honiadau oedd yn codi amheuon am ddull yr awdurdod o weithredu'r cynllun.
Cafodd y cyngor wybod am y penderfyniad ar Ionawr 9 2012.
Fe fydd yr ymchwiliad yn edrych ar nifer o faterion penodol o fewn y cynllun iaith, sef:
Polisïau a mentrau newydd;
Cyfathrebu ysgrifenedig;
Cyfarfodydd eraill gyda chwsmeriaid;
Deunydd wedi ei gyhoeddi a'i argraffu;
Ffurflenni a deunydd esboniadol.
'Colli cyfle'
Roedd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo'r cyngor o "fynd yn groes i'w gynllun iaith yn gyson ac yn ddifrifol", gan ychwanegu bod "ffurflenni, negeseuon ffôn a gohebiaeth swyddogol yn anwybyddu ymrwymiadau i ddwyieithrwydd".
"Gyda chynifer o blant yn mynd trwy addysg Gymraeg mae'r cyngor yn gadael nid yn unig y cyhoedd i lawr," meddai cadeirydd y Gymdeithas, Bethan Williams.
"Ond, hefyd yn colli cyfle i ddefnyddio sgiliau'r genhedlaeth newydd - cenhedlaeth sy'n dod trwy'r system addysg yn rhugl yn Gymraeg."
Dywedodd fod methiant y cyngor i lynu at ei gynllun iaith yn tanseilio'r iaith ar lefel gymunedol.
Mewn ymateb dywedodd y cyngor eu bod yn ymwybodol bod y bwrdd yn edrych ar faterion sy'n ymwneud â'u polisi iaith Gymraeg.
"Fe fyddwn yn cydweithio gyda nhw ar y materion yma," ychwanegodd llefarydd.
Ond ychwanegodd Bethan Williams bod gan y cyngor "gyfle i gadw pobl ifanc yn yr ardal a defnyddio eu sgiliau iaith nhw".
"Gobeithiwn y bydd Comisiynydd y Gymraeg fydd yn dechrau ei swydd cyn bo hir yn sicrhau na welwn ni achosion fel hyn bellach."
Honnodd fod problemau tebyg mewn nifer o gynghorau eraill yn y de a bod y mudiad yn cynnal arolwg o'r cynghoraul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2011