Pryder colli tir i ail atomfa?
Mae nifer o ffermwyr Ynys Môn yn poeni eu bod nhw am golli erwau o dir yn sgil cynllun posib gan gwmni niwcliar Horizon i wella un o brif ffyrdd yr ynys er mwyn codi ail atomfa yn Yr Wylfa.
Oherwydd y pryder mae Undeb Amaethwyr Cymru rwan yn bwriadu trefnu cyfarfod buan â chynrychiolwyr y cwmni.
Maen nhw eisiau cael gwybod yn union be ydi'r cynllun ar gyfer ffordd yr A5025 o'r Fali i Dregele ger Cemaes.
Adroddiad Alun Rhys.