Heddlu'n apelio wedi marwolaeth dynes wedi damwain car
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth, ar ôl i fenyw farw mewn damwain car ym Mrymbo nos Lun.
Bu farw'r fenyw 21 oed wedi i ddau gerbyd daro'n erbyn ei gilydd ar ffordd y B5101, Vicarage Road, tua 7:20pm.
Rhyddhawyd dau o bobl o'u ceir gan aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ond bu farw'r fenyw oedd yn teithio mewn car Peugeot yn y fan a'r lle.
Aed â gyrrwr y car i Ysbyty Maelor Wrecsam ag anafiadau difrifol ond nid angheuol.
Mae'r teulu wedi cael eu hysbysu o'r farwolaeth.
Mae'r crwner hefyd wedi ei hysbysu.
Chafodd gyrrwr y car Laguna ddim ei anafu.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol