Gwaith artistiaid rhestr fer Artist Mundi 2012

  • Cyhoeddwyd
Gwaith Tania Bruguera o Cuba Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhestr fer yr artistiaid ar gyfer Gwobr Artes Mundi 5 (2012) wedi ei gyhoeddi. Mae saith artist arno gan gynnwys Tania Bruguera o Cuba. Dyma "Sin Titulo" sy'n ddarn fideo.

Gwaith Tania Bruguera o Cuba Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Darn arall o waith Tania Bruguera yw Tatlin's Whispers

Gwaith Teresa Margolles o Mecsico Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

O Mecsico y daw Teresa Margolles. Dyma ei gwaith "What Else Could We Talk About, Celaning" sy'n cynnwys dwr a gwaed ar lawr arddangosfa o'r bobl â lofruddwyd ym Mecsico sy'n cael ei lanhau o leiaf unwaith y dydd.

Gwaith Teresa Margolles o Mecsico Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

"In the Air" yw darn arall o waith Teresa Margolles sydd wedi ei henwi ar y rhestr fer.

Gwaith Apolonija Šušteršič o Slofenia Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Mae Apolonija Šušteršič yn dod o Slofenia a dyma ei gwaith "Community Oavillion".

Gwaith Apolonija Šušteršič o Slofenia Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

"Garden Service" yw hwn o waith Apolonija Šušteršič. Dyma'r bumed flwyddyn i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ac mae 'na wobr o £40,000 i'r enillydd.

Gwaith Darius Mikšys o Lithiwania Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

O Lithiwania y daw Darius Mikšys a dyma ei waith "Behind the White Curtain".

Gwaith Darius Mikšys o Lithiwania Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Artist Oarent's Meeting yw darn arall o waith Darius Mikšys a fydd yn cystadlu am y wobr sy'n cael ei gynnig bob dwy flynedd.

Gwaith Miriam Bäckström o Sweden Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Un o Sweden yw Miriam Bäckström, un o bum merch sydd ar y rhestr fer. Dyma ei gwaith "The Opposite of Me is I" sy'n ddarn tapestri.

Gwaith Miriam Bäckström o Sweden Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ddarn "Attractions/Red Vitrine" gan Miriam Bäckström. Bydd bob un o'r chwech artist sydd ddim yn dod i'r brig yn derbyn gwobr newydd o £4,000 yr un.

Gwaith Phil Collins o Loegr Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Yr unig artist o Brydain yw Phil Collins o Loegr. Dyma ei waith "Auto-Kino!"

Gwaith Phil Collins o Loegr Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Ail ddarn o waith Phil Collins yw "soy mi madre", ffilm mewn Sbaeneg. Dyma un o ddau ddyn sydd ar y rhestr fer.

Gwaith Sheela Gowda o India Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Artist o India yw Sheela Gowda. Fe gychwynnodd ei gyrfa yn gwneud peintiadau ond mae hi bellach yn gwneud gwaith cerfluniol. Dyma ei gwaith "Of All People"

Gwaith Sheela Gowda o India Gwobr Artes Mundi 5 (2012)
Disgrifiad o’r llun,

Dyma waith "Collateral" gan Sheela Gowda. Fe fydd yr holl waith i'w gweld mewn arddangosfa arbennig yn yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol newydd Cymru o Hydref 6 2012 ymlaen.

Straeon perthnasol