Caniatâd cynllunio i fferm gŵn
- Cyhoeddwyd

Mae angen trwydded arbennig ar gyfer bridio cŵn
Mae cais cynllunio dadleuol ar gyfer fferm ble bydd dros 100 o gŵn yn cael eu magu wedi cael sêl bendith pwyllgor Cyngor Sir Caerfyrddin.
Am gyfnod roedd y bridwyr ar fferm Penparc yn Llangynin wedi bod yn gweithredu heb drwydded a chaniatâd cynllunio.
Roedd ymgyrchwyr yn erbyn ffermydd cŵn bach yn protestio ddydd Mawrth pan ymwelodd cynghorwyr â'r safle.
Mae'r cŵn yn cael eu casglu o Benparc bob pythefnos gan gyfanwerthwr.
Penderfynodd cynghorwyr fod angen ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais cynllunio.
Anhysbys
Daeth cwyn anhysbys i law'r cyngor ym mis Mehefin 2011 am y safle oedd heb drwydded i fridio cŵn.
Cafodd yr adran drwyddedau wybod am y sefyllfa bryd hynny.
Gwnaeth y perchennog, Mrs E M Roberts, gais llwyddiannus am drwydded bridio cŵn ym mis Awst 2011.
Dyw hi ddim yn glir am ba hyd yr oedd anifeiliaid wedi cael eu bridio ar y safle cyn cael trwydded.
Roedd mwy nac 80 o wrthwynebiadau i'r cais cynllunio ac roedd gan ddeiseb ar-lein 600 o enwau.
Cafodd y caniatâd cynllunio ei gymeradwyo gydag ond tri o gynghorwyr yn atal eu pleidlais.