Elusen yn newid enw
Mae elusen yn Llandudno sy'n rhoi gofal i tua 40 o gyn-filwyr wedi penderfynu newid ei enw - er mwyn gwneud natur eu gwaith yn fwy clir i bobl.
Blind Veterans UK fydd yr enw newydd ar elusen St Dunstan's sy'n rhoi cefnogaeth gydol oes i gyn-aelodau o'r lluoedd arfog.
Mae'r ganolfan yn Llandudno, gafodd ei hagor chwe mis yn ôl, yn gofalu am gyn-filwyr dall neu rannol ddall.
Mae'r elusen yn gobeithio y bydd yr enw newydd yn ei gwneud yn haws i filwyr presennol ddod i wybod am eu bodolaeth.
Adroddiad Rhian Price.