Chris Coleman am i Ben Turner chwarae dros Gymru
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Turner ail gôl yr Adar Gleision yn erbyn Lerpwl ddydd Sul
Mae'n debygol y bydd Chris Coleman yn gofyn i Ben Turner ymrwymo'i hun i chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru.
Mae amddiffynnwr Caerdydd wedi'i gymhwyso i chwarae dros Gymru am fod ei fam-gu yn Gymraes ac mae sgowtiaid y tîm cenedlaethol eisoes wedi bod yn gwylio cyn-chwaraewr dan 19 oed Lloegr.
Turner oedd un o chwaraewyr gorau'r Adar Gleision wrth iddyn nhw golli yn erbyn Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan Carling ddydd Sul.
Gofynnodd hyfforddwr tîm ieuenctid Cymru Brian Flynn i Turner chwarae dros Gymru ddwy flynedd yn ôl.
Ond ar y pryd allai'r amddiffynnwr 6 troedfedd 4 modfedd o daldra, a gafodd ei eni yn Birmingham, gynnig tystiolaeth fod 'na dras Gymreig.
'Gêm wych'
Ond mae disgwyl i reolwr newydd Cymru, Coleman, a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru gysylltu â Turner i gadarnhau ei fod yn gymwys i chwarae dros Gymru.
Erbyn hyn mae Turner, sgoriodd ail gôl Caerdydd yn erbyn Lerpwl, wedi dweud bod dau o'i deidiau a neiniau o dras Gymreig.
Ond nid yw am ymrwymo ei hun i chwarae dros Gymru tan i Coleman a'r Gymdeithas ofyn iddo'n swyddogol.
"Roeddwn i'n meddwl bod Turner wedi cael gêm wych yn erbyn Lerpwl ac ef oedd un o'r chwaraewyr gorau ar y cae," meddai Coleman.
Byddai Turner yn atgyfnerthu carfan Cymru gan ymuno ag amddiffynwyr fel James Collins, Danny Gabbidon a Danny Collins.
Gallai Turner chwarae dros ei wlad am y tro cyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico ar Fai 27 yn Efrog Newydd pe na bai Caerdydd yn chwarae yn gemau ail gyfle'r Pencampwriaeth.
'Llwyddiant'

Roedd Craig Bellamy yn agos at gyn-reolwr Cymru Gary Speed
Yn y cyfamser mae capten y tîm rhyngwladol, Aaron Ramsey wedi annog Craig Bellamy i barhau i chwarae dros Gymru.
Mae Bellamy yn ystyried ei ddyfodol fel chwaraewr rhyngwladol.
Ond mae Ramsey am i ymosodwr Lerpwl chwarae dros ei wlad tan ddiwedd ymgyrch Cymru yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
"Mae Craig wedi bod yn rhan bwysig iawn o'n llwyddiant," meddai Ramsey.
"Mae e wedi profi fod ganddo'r ddawn i fygwth amddiffynwyr ac mae ganddo lawer o brofiad.
"Rydym yn gobeithio y bydd e'n penderfynu parhau i chwarae am fod ganddo lawer i gynnig a gallai chwarae rhan allweddol o ran llwyddiant Cymru yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012
