Cyhuddo dyn o drosedd hiliol yn ystod gêm bêl-droed
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â digwyddiad honedig yn ystod gêm bêl-droed rhwng Lerpwl a Manchester United ym mis Ionawr
Mae dyn 58 oed o Wynedd wedi cael ei gyhuddo o wneud ystumiau hiliol yn ystod gêm bêl-droed.
Cafodd Phillip Gannon o'r Bermo ei arestio wedi'r digwyddiad honedig yn ystod gêm gwpan rhwng Lerpwl a Manchester United yn Anfield ar Ionawr 28.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos yng Nghanolfan Gyfiawnder Lerpwl ar Ebrill 20.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol