Morgannwg ar ei hôl hi
- Cyhoeddwyd
Roedd Morgannwg ar ei hôl hi yn erbyn Sir Gaerlŷr ar ail ddiwrnod gem yn ail adran y bencampwriaeth.
Ar y diwrnod cyntaf sgoriodd Sir Gaerlŷr 249 i gyd allan.
Roedd y cyfanswm yn un canmoladwy o gofio bod y tîm cartref wedi colli Greg Smith a Jacques du Toit wrth i Forgannwg a Huw Waters fowlio'r ddwy bêl gyntaf.
Ond cafodd Rammaresh Sarwan (41) a Claude Henderson (57 heb fod allan) lwyddiant gyda'r bat.
Yn eu batiad cyntaf nhw sgoriodd Morgannwg 124, Wagg yn cyfrannu 42 cyn cael ei ddal gan Eckersley.
Sgor:
Batiad cyntaf
Sir Gaerlŷr - 249
Morgannwg - 124
Ail fatiad
Sir Gaerlŷr - 85 am 6 (31 pelawd)
4.15 pm dydd Sadwrn