Cynulliad: Trafod dyfodol pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Y disgwyl yw i'r gymdeithas ddatgan bod angen gwneud mwy o welliannau i rai meysydd pêl droed
Bydd dyfodol Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru yn dod o dan chwyddwydr Aelodau Cynulliad yn ddiweddarach.
Disgwylir i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) ddweud wrth Aelodau Cynulliad fod safonau chwarae ac isadeiledd yr uwchgynghrair wedi gwella ers iddo gael ei greu ym 1992.
Ond y disgwyl yw i'r gymdeithas ddatgan bod angen gwneud mwy o welliannau i rai meysydd pêl-droed yr uwchgynghrair dros y blynyddoedd nesaf.
Mae pwyllgor cymunedau'r Cynulliad ar fin dechrau ymchwiliad am bob agwedd ar yr uwchgynghrair.
'Rhagolygon'
Dywedodd Ann Jones, cadeirydd y pwyllgor: "Mae Cymru wedi cynhyrchu rhai o bêl-droedwyr gorau'r byd ac mae'r awch am y gêm sydd gan gefnogwyr pêl-droed Cymreig yn unigrwyw.
"Mae gan Uwchgynghrair Cymru ddilyniant ffyddlon ar draws y wlad ac mae'r pwyllgor hwn yn awyddus i sefydlu ei gyfraniad i bêl-droed Cymru a'i ragolygon am y dyfodol."
Bydd tystiolaeth CBC yn amlygu'r gwaith i godi safonau hyfforddi i lefelau rhyngwladol ac i sefydlu academïau ieuenctid.
Ond disgwylir i CBC gyfaddef nad yw isadeiledd y meysydd chwarae yn ddigon safonol.
Mae wedi honni bod yr Uwchgynghrair angen mwy o incwm i'w galluogi i gyrraedd yr un safonau â chynghreiriau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Llifoleuadau
Eisoes mae wedi lansio rhaglen bartneriaeth newydd â sefydliad o'r enw Shared Access lle y gall llifoleuadau gael eu codi yn ddi-dâl yn gyfnewid am gynnal cyfarpar ffonau symudol.
Disgwylir i Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, y corff sy'n gweithredu ar ran y CBC i ddatblygu pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru, ddweud wrth y pwyllgor fod safonau chwarae yn gwella ond bod yr uwchgynghrair yn haeddu mwy o sylw gan y cyhoedd a'r cyfryngau Cymreig.
Yn ôl yr ymddiriedolaeth, ymysg prif heriau'r uwchgynghrair mae cynnal a chadw a datblygu isadeiledd y clybiau.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth y byddai clybiau'r uwchgynghrair yn elwa ar farchnata proffesiynol a chyngor o ran datblygu busnes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2012
