Cydweithio i hyfforddi plismyn gyda drylliau
- Cyhoeddwyd

Wedi'r hyfforddiant cychwynnol, gall swyddogion arbenigo mewn mathau arbennig o ddrylliau
Mae Heddluoedd Gwent, De Cymru a Dyfed Powys yn uno i gynnig hyfforddiant drylliau i'w swyddogion.
Bydd uned newydd yn cael ei lansio yn ardal Waterton ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth, fydd yn golygu bod modd cynnig hyfforddiant ar un safle.
Bydd 24 aelod o staff yn gweithio yn yr uned, gan roi hyfforddiant drylliau i swyddogion o'r tri heddlu.
Y nod yw cynnig gwell adnoddau ac arbenigedd, gan sicrhau hefyd bod yr un safon o hyfforddiant, polisi a dulliau gweithredu ar gael i'r tri heddlu.
Y gobaith hefyd yw gwneud arbedion posib o ran costau hyfforddiant ac offer.
'Manteision'
Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Jeff Farrar, sy'n arwain y prosiect.
"Mae'r Uned Hyfforddi Drylliau yn enghraifft wych o heddluoedd cyfagos yn cyfuno adnoddau ac arbenigedd i sicrhau bod ein cymunedau lleol yn parhau i dderbyn gwasanaeth o'r radd flaenaf, fydd yn effeithlon ac effeithiol dros y blynyddoedd i ddod," meddai.
"Mae'r prosiect yn dod â nifer o fanteision.
"Bydd y tri heddlu'n gallu elwa o gronfa ehangach o arbenigwyr drylliau, un ganolfan ragoriaeth, a'r adnoddau hyfforddiant gorau posib."
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys, Nick Ingram, eu bod yn "ymdrechu i ddarparu gwasanaethau sy'n effeithlon ac yn rhoi'r gwerth gorau am arian i'n trigolion".
"Rydym yn awyddus i gydweithio pan fo hynny'n gwneud synnwyr busnes.
"Bydd cyfuno adnoddau ac arbenigedd gyda heddluoedd eraill yn sicrhau bod ein cymunedau'n dal i gael y lefel uchel o wasanaeth sy'n ddisgwyliedig."
Mae'r Hyfforddiant Drylliau Cychwynnol yn golygu cwrs 8-10 wythnos, gyda hyfforddiant pellach hyd at bedair gwaith y flwyddyn.
Gall swyddogion wedyn arbenigo mewn meysydd penodol fel defnyddio reifflau, amddiffyn neu achub gwystl.
Mae heddluoedd De Cymru a Gwent eisoes wedi cydweithio ar brosiectau megis Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Uned Ymchwiliadau Gwyddonol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
