Rhybudd am law trwm yn y de
- Cyhoeddwyd

Mae'n debyg y bydd hyd at ddwy fodfedd o law mewn cyfnod byr
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y bydd glaw trwm nos Fercher a dydd Iau.
Mae'r rhybudd rhwng 7pm nos Fercher a 9am ddydd Iau i siroedd y de a de Powys.
Mae disgwyl i'r gwynt gryfhau hefyd.
Gallai rhwng 20 a 50 milimedr, hynny yw rhwng un a dwy fodfedd, o law gwympo o fewn cyfnod byr.
Yn ôl y rhagolygon fe fydd hi'n sychach ddydd Gwener ac yn sych gan fwyaf dros y penwythnos oherwydd cefnen o wasgedd uchel.
Mae glaw mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal gyda glaw trwm mewn rhannau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2012
Hefyd gan y BBC
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol