Castell-nedd: Dim gorchymyn yn yr Uchel Lys
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gorchymyn ei wrthod yn yr Uchel Lys
Mae gorchymyn dirwyn i ben Clwb Rygbi Castell-nedd wedi ei wrthod yn yr Uchel Lys.
Roedd anghydfod am nad oedd treth wedi ei thalu.
Ym Mawrth roedd cadeirydd y clwb rygbi, Geraint Hawkes, wedi dweud y byddai dyledion yn cael eu talu'n llawn.
Ond mae'r clwb pêl-droed, sydd â'r un perchennog, yn gorfod talu dyledion o fewn wythnos.
Dywedodd Banc Barclays y bydden nhw'n ceisio gorchymyn dirwyn i ben wedi i Gyllid a Thollau drosglwyddo'r achos ym Mawrth.
Cyn bod y banc yn ceisio gorchymyn mae angen tystiolaeth bod swyddogion wedi cyflwyno deiseb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012