Yn euog o lofruddio gyrrwr fan
- Cyhoeddwyd

Cafodd Gabor Sarkozi ei ddyrnu, ei gicio a'i sathru gan Siree a Bland
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae dau ddyn yn euog o lofruddio gyrrwr fan yn Sir Ddinbych y llynedd.
Bu farw Gabor Sarkozi wedi ymosodiadau arno ym mhentref Gallt Melyd ger Prestatyn.
Clywodd y llys fod James Siree, 22 oed, a'i ewythr, Gary Bland, 42 oed, wedi dyrnu, cicio a sathru ar Mr Sarkozi, dyn o dras Hwngaraidd oedd yn byw yn Y Rhyl.
Gwadu
Roedd y ddau wedi gwadu llofruddio ond fe gymrodd y rheithgor awr a hanner yn unig i'w cael yn euog.
Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Griffith-Williams ei fod am ystyried y cyfnod y byddai rhaid i'r ddau dreulio dan glo cyn cael gwneud cais am barôl.
Roedd Siree a Bland wedi gwadu lladd Mr Sarkozi ar Hydref 18, 2011, gan honni ei fod wedi ceisio ei helpu wedi iddyn nhw ddod o hyd i Mr Sarkozi wedi i rywun arall ymosod arno.
Bydd y barnwr yn cyhoeddi ei ddedfryd ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012

- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd8 Mai 2012

- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011