Llifogydd: Cynllun amddiffyn tai
- Cyhoeddwyd

Bydd 60 o gartrefi yn elwa o'r cynllun
Mae 60 o dai yng Ngheredigion wedi derbyn amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd fod y tai wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol.
Mae'r tai yn ardal y Strand, Aberteifi ac wedi cael problemau oherwydd Afon Teifi a'r môr.
Bydd y rhwystrau yn cael eu gosod yn y drysau pan fydd peryg o lifogydd.
Mae nifer bach o'r tai, lle nad yw rhwystrau yn addas, wedi cael drysau UPVC arbennig sy'n atal llifogydd.
Dywedodd Mandy Thomas o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Bydd y cynllun hwn yn helpu pobl Aberteifi i amddiffyn eu cartrefi rhag llifogydd.
"Mae'r cynllun hefyd wedi helpu codi ymwybyddiaeth o'r risg o lifogydd o'r môr yn yr ardal.
Dywedodd eu bod wedi dangos i bobl sut i ddefnyddio'r rhwystrau a'u bod "yn hyderus y byddant yn cael eu gosod yn y modd cywir pan fydd llifogydd".
Mae'r cynllun wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru.