Gyrrwr beic modur wedi marw ar yr A470 yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed wedi marw ar ôl colli rheolaeth ar ei feic modur ar ffordd yr A470 yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y lôn ogleddol yn Yr Eglwys Newydd am 4.33pm ddydd Llun.
Roedd y dyn yn byw yn lleol ac yn gyrru beic modur Yamaha R1 coch.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i'r hyn ddigwyddodd.