Tân yn ysgol gynradd Betws
- Cyhoeddwyd

Does dim manylion eto beth oedd achos y tân
Mae'r gwasanaeth tân yn taclo tân mewn ysgol gynradd ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Chafodd neb ei anafu.
Aeth tri chriw o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i Ysgol Gynradd Betws yn Llangeinor ar ôl galwad am 2:30pm.
Roedd y tân yr Adran Fabanod.
Dywedodd y gwasanaeth tân y dylai pobl leol gadw drysau a ffenestri ar gau.
Does dim manylion eto beth oedd achos y tân.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol