Gwasanaeth Bwcabus yn ehangu
- Cyhoeddwyd
Bydd Bwcabus, cynllun trafnidiaeth ar gyfer ardaloedd gwledig, yn ehangu yng Ngheredigion a Chaerfyrddin.
Ond dyw pawb ddim yn hapus gyda'r cynllun.
Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan £400,000 gan Lywodraeth Cymru, £600,000, a gan gynghorau Ceredigion a Sir Gâr a £1.8 miliwn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Bwriad Bwcabus, dolen allanol yw annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac adfywio'r defnydd o fysiau gwledig.
Yr Athro Stuart Cole, o Ganolfan Trafnidiaeth Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg, ddyfeisiodd Bwcabus ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae o'n amddiffyn cost y gwasanaeth, gan ddweud fod y cymhorthdal cyhoeddus ar gyfer Bwcabus yn cyfateb i £2 y teithiwr o'i gymharu â £6 y teithwyr ar wasanaeth bws gwledig confensiynol.
'Trawsnewid trafnidiaeth'
Y bwriad yw ehangu'r gwasanaeth i ardaloedd newydd yng ngogledd Sir Gâr a Cheredigion gan gynnwys Llanbed, Llanybydder, Felin-fach a Llangeitho.
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, cyn lansio'r gwasanaeth ddydd llun: "Mae Bwcabus yn wasanaeth arloesol sy'n trawsnewid trafnidiaeth yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.
"Mae'r gwasanaeth poblogaidd hwn yn chwarae rhan allweddol o ran helpu pobl i gael at wasanaethau allweddol i deithio i'r gwaith a derbyn hyfforddiant a chyfleoedd addysgiadol eraill sy'n bwysig iawn yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.
"Mae ein gallu i arloesi o ran gwasanaethau bysiau lleol eisoes wedi ei dderbyn ar draws y DU ac rwyf ar ben fy nigon i weld y gwasanaeth arloesol hwn yn mynd o nerth i nerth."
Cafodd y gwasanaeth ei ddefnyddio 13,246 tro yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn 2011.
Mae pobl yn ffonio canolfan ateb ddwyieithog er mwyn bwcio'r bws i stopio ger eu cartref a'u gollwng wrth arosfan ar y brif heol.
Anhapus
Ond mae rhai yn pryderu bod gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu colli ar draul gwasanaeth y Bwcabus.
Er ei fod yn cytuno fod angen ehangu'r gwasanaeth bysiau i'r ardal, dywedodd y Cynghorydd Ieuan Davies, o Gyngor Sir Gaerfyrddin: "Ry'n ni wedi colli'r bws Arriva nawr, oedd yn mynd o Lanybydder, trwy Bencarreg i Gwmann. Mae hwnnw'n mynd nawr i Geredigion , trwy Alltyblaca a Llanwnnen.
"Mae'n rhaid cael rhyw strategaeth newydd yn lle hynny a 'wi ddim yn meddwl fod y Bwcabus yn iawn i bawb."
"Fel mae nawr, pan fydd pobl yn bwcio'r bws, mae'n rhaid i chi roi gwybodaeth y diwrnod cynt.
"Os y'ch chi am fynd at y meddyg erbyn 10am, dyw hi ddim yn bosib dal y bws yn y fan a'r lle, mae'n rhaid i chi ei archebu ynghynt."
Mae Mr Davies yn galw am ragor o drafodaethau i weld sut fyddai modd gwella'r gwasanaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2011