Sinema: Ymgyrchwyr yn obeithiol
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y sinema ei hagor yn y 1930au
Mae perchnogion sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog wedi rhoi prydles i grŵp o bobl ifanc sy'n ceisio ei hail-agor.
Fe gaeodd y drysau flwyddyn a hanner yn ôl oherwydd trafferthion ariannol.
Nod Ffrindiau'r Coliseum yw cael grantiau er mwyn diogelu dyfodol yr adeilad.
Penderfynodd cyfranddalwyr y sinema roi'r brydles yn ystod cyfarfod nos Fercher.
50,000
Mae gan yr ymgyrchwyr flwyddyn i baratoi cynigion grantiau cyn adfer y sinema gafodd ei chodi yn y 1930au.
Ffrindiau'r Coliseum, cwmni dielw, drefnodd gyfarfod y cyfranddalwyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Porthmadog.
Mae gan griw o bobl ifanc weledigaeth newydd ar gyfer y dyfodol
Mae'r sinema yn eiddo i'r gymuned leol ers 1985 pan brynodd pobl leol 50,000 o gyfranddaliadau am £1.
Dywedodd Ffrindiau'r Coliseum ar eu gwefan: "... rydym wedi gweithio'n galed ac wedi bod yn weddol lwyddiannus o ran codi ymwybyddiaeth ynghylch trafferthion Coliseum Porthmadog a'r effaith ddinistriol ar y gymuned leol wedi i'r sinema gael ei chau."
Dyn busnes lleol Y Capten W E Pritchard gododd y sinema, un o sinemâu hynaf y sir.
Cafodd ei hailagor yn 2007.
Llwyddwyd i godi £14,000 i drwsio boiler yr adeilad a gwneud gwaith adnewyddu ac fe gafwyd 200 o seddi i'r Coliseum gan i sinema'r Plaza ym Mangor gau.
Ond bu'n rhaid i'r sinema gau ym mis Ionawr 2011 oherwydd cynulleidfaoedd bach.