Ymgynghoriad ar ddyfodol ysgol
Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal ymgynghoriad newydd ar ad-drefnu addysg yn ardal Llangefni wedi i rieni godi cwestiynau am yr ymgynghoriad gwreiddiol.
Mewn cyfarfod cyhoeddus nos Lun, bu rhieni yn datgan eu pryder y gallai Ysgol Gynradd Talwrn gau ond mynodd Comisiynydd Addysg y sir nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto.
Mae dyfodol addysg gynradd yn ardal Llangefni dan ystyriaeth ar hyn o bryd ac roedd nifer y lleoedd gwag yn Ysgol Talwrn wedi cael sylw mewn adroddiad gan y cyngor sir.
Ond wedi'r cyfarfod nos Lun, dywedodd y cyngor y byddan nhw nawr yn ailedrych ar y sefyllfa ac y bydd yr ymgynghoriad newydd yn cynnwys mwy na dim ond ysgolion Talwrn, Corn Hir ac Ysgol y Graig.
Dyma adroddiad Llyr Edwards ar y Post Cyntaf fore Mawrth.