Stomp Steddfod Post Cynta
- Cyhoeddwyd

Eurig Salisbury yn cyfri'r sillafau cyn cyflwyno'r gerdd
Os na fyddwch chi'n gallu mynychu'r Eisteddfod eleni a chael cyfle i fynd i'r Babell Lên i glywed Ymryson y Beirdd peidiwch â digaloni.
Stomp: T James Jones
Mae bardd gwahanol wedi bod yn adrodd cerdd fach yn ddyddiol ar Post Cyntaf yn ystod yr wythnos.
Eisteddfod Bro Morgannwg yw'r testun.
Yn addas iawn, mae'r stomp fechan yn cychwyn yng nghwmni'r Archdderwydd T James Jones.
Dydd Mawrth cyfle i Brif Lenor Eisteddfod yr Urdd, Anni Llŷn oedd cael rhannu ei cherdd ar Y Post Cyntaf.
Stomp: Anni Llyn
Ddiwrnod wedi'r Coroni roedd y dewis yn addas gan mai Anni enillodd Goron yr Urdd yn Eryri fis Mehefin.
Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, gafodd y cyfle ddydd Mercher i lunio cerdd.
Roedd wrthi tan yr eiliad olaf yn cyfri sillafau yn ei linellau.
Mae ei gywydd yn trafod y profiad a gafodd yn Seremoni'r Coroni ddydd Llun.
Eurig Salisbury
Un o swyddog datblygu newydd Cymdeithas yr Eisteddfodau bach yw Meirion Macintyre Huws.
Mae o hefyd yn Brifardd.
Stomp: Mei Mac
Fo gafodd y cyfle ddydd Iau i lunio cerdd ar gyfer Stomp y Post Cyntaf.
Dydd Gwener cyfle i John Glyn Jones.
Yn un o feirdd Sir Ddinbych mae o hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eisteddfod Sir Ddinbych 2013.
Stomp: John Glyn Jones
Mae o'n edrych ymlaen at droi o Fro Morgannwg am adre a chroesawu'r Eisteddfodwyr i'r Sir y Flwyddyn nesa'.
Os oes ganddoch chi gerdd am Fro Morgannwg fe allwch chi gysylltu gyda post.cyntaf@bbc.co.uk