Merch wedi marw a saith wedi eu hanafu ym mhentref Gwespyr
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ffordd ei chau er mwyn galluogi hofrennydd ac ambiwlansys i gyrraedd
Mae merch wedi marw a saith o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn damwain yn Sir y Fflint.
Roedd dau gar yn y ddamwain ar yr A548 ym mhentref Gwespyr, ger Treffynnon tua 12.00pm ddydd Sul.
Dywedodd yr heddlu bod cyfanswm o naw o bobl yn y ddau gar.
Cafodd y ffordd ei chau er mwyn galluogi hofrennydd ac ambiwlansys i gyrraedd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol