Beiciwr modur 17 oed wedi marw
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid cau'r ffordd am oriau
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys fod beiciwr modur 17 mlwydd oed wedi marw oherwydd gwrthdrawiad gyda fan yn Sir Benfro ddydd Sadwrn.
Roedd y ddamwain ar hen Heol Penfro rhwng Burton a Hwlffordd.
Cafodd y beiciwr modur anafiadau difrifol iawn a bu farw yn y fan a'r lle.
Bu'n rhaid cau'r ffordd am oriau tra bod yr heddlu'n ymchwilio i achos y gwrthdrawiad.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r Uned Plismona Ffyrdd Hwlffordd ar 01267 222020 neu 101 cyn gynted â phosib.