Mwy nag erioed o'r blaen yn ymweld â'r Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd

Roedd 64,769 yn y sioe ddydd Mawrth, y nifer ucha' erioed ar gfyer y dydd Mawrth
Wrth i'r haul barhau i wenu, roedd y nifer ucha' erioed o ymwelwyr ar gyfer dydd Mawrth y y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yno eleni.
Roedd 64,769 wedi mynd trwy'r clwydi, yn fwy na'r record flaenorol o 63,390 yn 2006.
Ar ddechrau'r wythnos roedd amcangyfrif y byddai dros 200,000 o bobl yn ymweld â'r Sioe dros y pedwar diwrnod - ond gallai'r cyfanswm fod yn fwy.
Mae'r Sioe Fawr ymlaen tan ddydd Iau a Brycheiniog yw'r sir nawdd eleni.
Aeth dros 227,500 o ymwelwyr i'r sioe'r llynedd, gan arwain at elw o £207,391.
Gwerth amaethyddiaeth
Dydd Mawrth, enillodd ffermwr o Lansawel ger Llandeilo Wobr Goffa Brynle.
Cyflwynwyd y wobr i Sion Thomas William gan y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, a gwraig y diweddar Mr Williams, Mary.
Hefyd ar Faes y Sioe ddydd Mawrth, 'roedd 'na drafodaeth am werth amaethyddiaeth i economi Cymru.
Yn ystod derbyniad Ofcom ac Undeb Amaethwyr Cymru yn y bore, cyhoeddwyd y byddai'r bwriad i gyflwyno gwasanaeth diwifr 4G yn "trawsnewid" cymunedau gwledig Cymru lle oedd mae darpariaeth wael neu ddim o gwbl.
Buon nhw'n trafod sut i wella'r ddarpariaeth band eang yng nghefn gwlad Cymru.
Bydd ocsiwn yn cael ei chynnal ond fydd hynny ddim tan ddechrau'r flwyddyn nesa', gyda'r gobaith y bydd defnyddwyr yn gallu derbyn 4G erbyn diwedd 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012