Elusen cŵn yn galw am reoliadau newydd
- Cyhoeddwyd
Mae elusen cŵn yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu lles yr anifeiliaid cyn iddyn nhw gyflwyno rheolau i daclo arferion gwael mewn canolfannau magu cŵn.
Mae'r Ymddiriedolaeth Gŵn am gyfyngu nifer y torllwythi y gall gŵn esgor yn flynyddol a chyfyngu'r nifer o eist y gall bobl berchen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gorffen ymgynghori ynglŷn â rheolau bridio cŵn.
Y cam nesaf yw cyhoeddi y broses ddeddfwriaethu yn fuan.
'Atal mentrau masnachol'
Bydd y rheolau yn cymryd lle Deddf Magu Cŵn 1973 yng Nghymru.
Fel rhan o'r cynlluniau fe fyddai'r rheolau o ran pwy sydd â'r hawl i gadw'r ffermydd arbennig i fridio'r anifeiliaid yn cael eu tynhau.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â gosod microsglodynion yn orfodol yn gorffen ym mis Awst.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu deddfu ynghylch cŵn peryglus.
Dywedodd Siân Edwards o'r Ymddiriedolaeth Gŵn y disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cynigion ynghylch rheoliadau bridio cŵn "unrhyw ddydd".
"Mae bridwyr da i gael ond bydd yn rhaid i'r rheoliadau newydd gael eu tynhau i atal mentrau masnachol," meddai.
"Mae rhai cŵn bach yn cael eu gwerthu gan werthwyr i siopau anifeiliaid anwes all olygu arwain at gŵn sâl.
"Bydd gosod microsglodynion yn orfodol yn y cŵn yn helpu gweithredu'r rheoliadau.
"Hoffwn weld cyfyngiad o ran nifer y torllwythi y gall gŵn esgor yn flynyddol a chyfyngiad o ran nifer o eist y gall pobl berchen.
"Yn fy marn i, ni ddylai unrhyw un berchen mwy na thair gast sy'n gallu bridio a ni ddylai'r geist hyn gynhyrchu mwy na thair torllwyth y flwyddyn."
'Safonau teilwng'
Mae Llywodraeth Cymru am atal "ffermydd cŵn bach" lle gall cŵn gael eu cadw mewn amgylchiadau cyfyng a gwael.
Mae gweinidogion yn bwriadu cyflwyno cynllun lle mae aelod llawn amser o staff yn gyfrifol am hyd at 30 ci, ond mae'r rhif hwn yn rhy uchel yn ôl gwrthwynebwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i godi safonau lles anifeiliaid.
"Rydym yn benderfynol o ddelio â bridwyr cŵn diegwyddor sy'n pardduo enw da'r bridwyr hynny sy'n gweithredu mewn modd cyfrifol ac addas.
"Yn ddiweddar rydym wedi ymgynghori ynglŷn â rheoliadau drafft fydd yn ein helpu i sicrhau safonau teilwng i les cŵn yng Nghymru.
"Ar hyn o bryd rydym yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw ac fe fyddwn ni'n gwneud penderfyniad ynglŷn â'r camau nesaf maes o law."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2012
.jpg)