Cyfle i Gaerdydd serennu ar lwyfan byd-eang
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn dweud fod hi'n gyfle i ddangos i bobl ledled y byd bod y brif ddinas, Caerdydd, yn lle gwych i gynnal y digwyddiadau chwaraeon mwya'.
Mae Gemau Olympaidd 2012 yn dechrau yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Mercher.
Fe fydd cic gynta'r gystadleuaeth bêl-droed i ferched yn Stadiwm y Mileniwm am 4pm.
Mae hyn ddeuddydd cyn y seremoni agoriadol yn Llundain.
Adroddiad Alun Thomas.