Cytundeb i gludo gweithwyr i fferm wynt fwya’ Ewrop
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cychod yn cludo gweithwyr o Fostyn, Sir y Fflint
Mae cwmni o Ynys Môn wedi cael cytundeb rhan o waith adeiladu fferm wynt Gwynt y Môr oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Bydd cwmni Turbine Transfers yng Nghaergybi yn creu 20 o swyddi.
Fe fyddan nhw'n darparu cychod fydd yn cludo gweithwyr i'r safle.
Yn ôl swyddogion y cynllun mae'r cytundeb yma yn dod â chyfanswm gwerth y cytundeb yng Nghymru i dros £80 miliwn.
Bydd y cychod yn rhedeg o Fostyn yn Sir y Fflint ac o Benbedw.
"Mae'n allweddol bod cynlluniau ynni o'r maint yma yn cynorthwyo'r economi rhanbarthol a chreu swyddi yn lleol," meddai Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart.
Mwy o gychod
"Fe ddylai busnesau ar draws Cymru fanteisio ar y posibilrwydd economaidd o greu swyddi wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu economi carbon isel newydd."
Cychwynnodd y cwmni teuluol yn 2008 gyda dau gwch cynorthwyol.
Erbyn hyn mae ganddyn nhw 28 ac mae disgwyl tair arall eleni a mwy yn 2013.
Mae'r cwmni wedi comisiynu catamarán ar gyfer y cynllun.
Fe fydd y cwmni hefyd yn darparu dau gwch arall fel rhan o fferm wynt oddi ar arfordir Yr Almaen.
Dywed mai Gwynt y Môr yw'r fferm mwya' oddi ar yr arfordir yn Ewrop.
Mae'n cael ei adeiladu 13km (wyth milltir) oddi ar yr arfordir.
Unwaith y bydd y fferm yn gweithio fe fydd yn cynhyrchu ynni sy'n cyfateb i angen 400,000 o gartrefi bob blwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011

- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011
