Prosiect hen luniau mewn arddangosfa oriel
- Cyhoeddwyd

Dywedodd curadur arddangosfa Bywyd y Stryd ym Mae Colwyn, Paul Sampson, ei fod wedi cael ymateb "rhyfeddol o dda" i'r prosiect o luniau lleol. Mae'r llun yma yn dyddio o 1954.

Nid oes modd dyddio rhai lluniau'n hollol gywir. Credir i'r llun yma ddyddio o'r 1980au.

Tynnwyd y llun yma tua 1979 yn Ffair Bleser Pat Collins ym Mae Colwyn.

Cafodd y lluniau eu hychwanegu at fap enfawr ar waliau'r oriel. Mae wedi creu portread o'r dref ar hyd y blynyddoedd drwy luniau personol.

Cymerwyd y llun yma o'r Dywysoges Margaret yn agor Canolfan Ddigwyddiadau Eirias ym 1981.

Mae'r arddangosfa yn gorffen ar ddydd Llun 30 Gorffennaf.

Mae Mr Sampson yn gobeithio bydd llyfrgelloedd, ysgolion a chanolfannau siopa yn medru arddangos darnau o'r map wedi i'r arddangosfa orffen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2012
